GAG - Newyddion
 |
|
Grwp Aberystwyth Gwyrddach
Greener Aberystwyth Group
|

GRŴP ABERYSTWYTH GWYRDDACH / GREENER ABERYSTWYTH GROUP
CYFANSODDIAD
1. ENW
Enw’r mudiad fydd:
GRŴP ABERYSTWYTH GWYRDDACH / GREENER ABERYSTWYTH GROUP
2. AMCANION
A. I hybu cadwraeth a rheolaeth mannau gwyrddion o fewn cyrraedd a
choedydd ar strydoedd yn ac o amgylch Aberystwyth, yn fwynderau
gwerthfawr i’r gymuned.
B. .Bydd y Grwp yn cyrraedd ei amcanion drwy hybu a gweithredu arolygon,
craffu ar geisiadau cynllunio a datblygiadau perthnasol eraill, trefnu
grwpiau i weithio’n wirfoddol, casglu a rhannu gwybodaeth, cynhyrchu
deunydd dehongli, codi arian, cynnig cynghorion a gwneud argymhellion, a
chydlynu â mudiadau sy’n berchen ar neu sydd â chyfrifoldeb am fannau
gwyrddion yr ardal.
C. Bydd y Grwp yn parhau yn an-wleidyddol, yn yr ystyr y bydd yn osgoi
gwleidydda Pleidiol.
D. Ni fydd y Grwp yn ceisio gorfodi ei argymhellion ar y gymuned leol.
Yn bennaf, mudiad ymchwiliol ac un sy'n cynhgori ydyw, ond os caiff
gefnogaeth resymol gan y gymuned, gall gynrychioli’r amcanion hynny a
ddatganwyd ganddo.
E. Ni chaiff y Grwp ei ddefnyddio yn fodd i hybu na thrafod problemau
anghydfod personol cymdogion.
F. Mudiad sydd-ddim-yn-gwneud-elw yw’r Grwp.
3. AELODAETH A FFRINDIAU’R GRWP
A. Bydd yr Aelodaeth yn agored i bawb sydd yn derbyn ac yn cefnogi
amcanion y Grwp. Bydd yr aelodau yn cytuno ufuddhau i gyfansoddiad y
Grwp ac i benderfyniadau’r Pwyllgor Gweithredol.
B. Bydd tri chategori Aelodaeth:
Aelodaeth Unigolyn, 16 oed neu hyn;
Aelodaeth Teulu, yn cynnwys pawb sy’n preswylio yn yr un cyfeiriad;
Aelodaeth Mudiad, i gwmnïau, grwpiau eraill, ysgolion, etc.
C. I’r Ysgrifennydd y dylid gwneud cais am Aelodaeth.
D. Gellir codi tâl tanysgrifio yn flynyddol, y swm i’w bennu o dro i dro
gan Gyfarfod Cyffredinol.
E. Gall unrhyw unigolyn sy’n dymuno cefnogi’r Grwp, ond sydd ddim yn
dymuno tanysgrifio yn Aelod, gynnig cefnogaeth drwy ddod yn Ffrind i’r
Grwp. Disgwylir i Ffrindiau roi enw a chyfeiriad a manylion cyswllt
eraill i’r Ysgrifennydd Cyffredinol a/neu ch/gyfraniadau yn lle tâl.
4. CYFARFODYDD CYFFREDINOL BLYNYDDOL AC ETHOL AELODAU PWYLLGOR
A.
Cynhelir Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol (CCB) o fewn chwe mis i ddiwedd
pob blwyddyn ariannol, lle bydd y Pwyllgor yn adrodd am ei waith ac yn
cyflwyno’r cyfrifon am y flwyddyn. Gall Aelodau, Ffrindiau a’u gwesteion
ac unrhyw bersonau sydd â diddordeb, fynychu’r Cyfarfod, ond gan Aelodau
yn unig y bydd pleidlais.
B. Yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol cyntaf, bydd yr Aelodau yn
apwyntio Pwyllgor Gweithredol. Wedi hynny, ym mhob CCB dilynol, bydd
traean o’r Aelodau a etholwyd i’r Pwyllgor Gweithredol yn ymddeol. Gall
Aelod o’r Pwyllgor a ymddeolodd geisio cael ei h/ail-ethol gan Aelodau
sy’n mynychu’r CCB hwnnw, heb gael ei h/enwebu ymlaen llaw. Gall
enwebiadau eraill, mewn ysgrifen, gael eu cyflwyno i’r Ysgrifennydd,
wedi eu llofnodi gan ddau Aelod ac yn amlygu parodrwydd y sawl a
enwebwyd i wasanaethu ar y Pwyllgor.
C.
Yn y CCB, etholir, neu ail-etholir swyddogion (Cadeirydd, Ysgrifennydd,
Trysorydd).
D. Bydd yr Ysgrifennydd yn hysbysu’r holl Aelodau am ddyddiad y CCB a’r
Agenda, dim llai nag 14 diwrnod cyn y CCB.
5. CYFARFODYDD CYFFREDIN AC ANGHYFFREDIN
A. Gellir galw Cyfarfod Cyffredin, a fydd yn agored i unrhywun sydd â
diddordeb yng ngweithgareddau’r Grwp, unrhyw amser gan y Pwyllgor
Gweithredol. Gall Aelodau, Ffrindiau a’u gwesteion fynychu’r Cyfarfod
ond gan Aelodau yn unig y bydd pleidlais.
B. Cynhelir Cyfarfod Anghyffredin, a fydd yn agored i’r holl Aelodau, os
bydd 10 y cant neu ragor o’r Aelodau ar y pryd yn cyflwyno dymuniad i’r
Ysgrifennydd am gynnal y fath gyfarfod. Bydd yr Ysgrifennydd yn trefnu
bod y Cyfarfod yn digwydd ymhen 21 niwrnod.
C. Bydd yr Ysgrifennydd yn hysbysebu’r Cyfarfodydd o leiaf saith niwrnod
ymlaen llaw (ond gweler 10A)
6. TREFN CYFARFODYDD
A. Cynhelir yr holl Gyfarfodydd yn ardal Aberystwyth. Ni chynhelir
cyfarfod Cyffredin, Anghyffredin na Chyfarfod Cyffredinol Blynyddol os
bydd llai na phump aelod yn bresennol.
B. Gall unrhyw Aelod roi cynnig gerbron. Er mwyn i’r Aelodau eraill
bleidleisio arno, rhaid i’r cynnig gael ei eilio gan Aelod arall.
C. Cyn pleidleisio, gall unrhyw Aelod gynnig gwelliant, a rhaid eilio’r
gwelliant yn ogystal. Rhaid i'r gwelliant ychwanegu geiriau at a/neu
ddileu geiriau yn y cynnig gwreiddiol.
D. Dim ond Aelodau sy’n bresennol mewn Cyfarfod a all bleidleisio. Bydd
gan bob Aelod Unigol, pob cynrychiolydd o deulu sy’n Aelodau, a phob
cynrychiolydd o fudiad sy’n Aelod, un bleidlais. Cyfrwng y pleidleisio
fydd drwy codi llaw. Os digwydd nifer y pleidleisiau fod yn gyfartal,
bydd gan Gadeirydd y Cyfarfod ail bleidlais neu bleidlais-fantol.
E. Cedwir llyfrau cofnodion Cyfarfodydd y Grwp gan yr Ysgrifennydd neu
Aelod Pwyllgor a enwebwyd.
7. Y PWYLLGOR GWETHREDOL
A. Y Pwyllgor Gweithredol (a elwir y Pwyllgor o hyn ymlaen) fydd yn
cyfarwyddo rheolaeth gyffredinol ar faterion y Grwp; etholir/ail-etholir
hwn yn y CCB a bydd yn cynnwys Cadeirydd (neu Gadeirydd Gweithredol),
Ysgrifennydd, Trysorydd a 7 aelod arall. Gellir gwahodd sylwebyddion i
fynychu Cyfarfodydd, gan gynnwys, ond nid yn unig o reidrwydd,
cynrychiolyddion a staff Cyngor Sir Ceredigion a Chyngor Tref
Aberystwyth a wardiau unigol eraill.
B. Gall y Pwyllgor gyfethol unrhywun i bwrpasau penodol fel bo’r galw.
Gall y Pwyllgor symud yr Aelodau Pwyllgor cyfetholedig hynny o’r
Pwyllgor ar unrhyw adeg, ac ni chânt bleidleiso ar faterion yn ymwneud
ag Ethol Swyddogion na materion yn ymwneud ag Aelodaeth.
C. Bydd swyddogion yn ymgymryd â’r dyletswyddau a roddir iddynt gan y
Cyfarfodydd Cyffredinol a’r Pwyllgor Gweithredol.
D. Bydd y Pwyllgor yn cwrdd o leiaf bob chwarter neu fel bo angen.
E. Ni all Cyfarfod Pwyllgor ddigwydd os bydd llai na thri aelod o'r
Pwyllgor yn bresennol.
F. Cedwir cofnodion Cyfarfodydd Pwyllgor gan yr Ysgrifennydd, a'u
cyflwyno ym mhob Cyfarfod dilynol a rhaid iddynt fod ar gael i’r holl
Aelodau.
8. CYLLID
A. Gall y Grwp godi arian drwy gyfrwng tanysgrifiadau, drwy geisio am
grantiau, drwy dderbyn rhoddion ac mewn unrhyw fodd cyfreithlon arall a
gaiff ei benderfynu gan y Pwyllgor.
B. Defnyddir yr holl arian a godir gan y Grwp neu ar eu rhan, er
hyrwyddo amcanion y Grwp yn unig, a bydd hyn yn cynnwys unrhyw
brosiectau arbennig neu ymgynghoriadau a gafodd eu cymeradwyo gan y
Pwyllgor. Ni all unrhyw Aelod unigol elwa'n bersonol nac yn faterol o
gyllid y Grwp. Costau cyfreithlon ac wedi eu cymeradwyo yn unig a gaiff
ad-daliad.
C. Telir tanysgrifiadau ar ddyddiadau ac mewn dulliau y gellir
penderfynu arnynt o dro i dro gan y Pwyllgor Gweithredol.
D. Bydd y Trysorydd yn agor cyfrif banc neu gyfrif cymdeithas adeiladu
yn enw’r Grwp.
E. Bydd holl sieciau a chyfarwyddiadau i fancwyr y Grwp yn cael eu
llofnodi gan y Trysorydd neu’r sawl a enwebir ganddo/ddi, ac un
llofnodydd arall, naill ai'r Cadeirydd, yr Ysgrifennydd, neu rywun a
enwebir ganddynt.
F. Ni fydd cyfrif/on banc y Grwp yn mynd i or-ddrafft, ac ni fydd y Grwp
yn ymrwymo’n ariannol y tu hwnt i’r cyllid a fydd yn bodoli ganddo.
G. Bydd y Trysorydd yn cadw llyfrau cyfrifon priodol a bydd yn cofnodi
unrhyw daliadau i a gan y Grwp, yn dosbarthu arian o dan gyfarwyddiaeth
y Pwyllgor yn unig ac yn cynhyrchu’r holl lyfrau, dogfennau ac eiddo’r
Grwp o dan gyfarwyddiaeth y Pwyllgor.
H. Bydd y Trysorydd yn sicrhau bod yr holl lyfrau a’r cofnodion ar gael
i’w harolygu neu eu harchwilio yn annibynnol ar alwad y Pwyllgor.
I. Y flwyddyn ariannol fydd 1 Ebrill hyd 31 Mawrth.
9. NEWIDIADAU I'R CYFANSODDIAD
A. Ni ellir newid y Cyfansoddiad hwn heblaw mewn Cyfarfod Anghyffredin
neu’r CCB.
B. Bydd unrhyw newid i'r Cyfansoddiad yn cael ei gytuno gan ddim llai na
thraean Aelodau'r Grwp fydd yn bresennol ac yn pleidleisio yn y Cyfarfod
Anghyffredin neu'r CCB, gyn belled â bod rhybudd am y newid hwnnw mewn
ysgrifen wedi cael ei dderbyn gan yr Ysgrifennydd ddim llai na 21
diwrnod cyn y Cyfarfod lle cynigir y newid.
10. DIRWYN I BEN
A. Gellir dirwyn y grwp i ben dim ond mewn Cyfarfod Cyffredinol
Anghyffredin a alwyd i’r pwrpas hwnnw, a rhaid ei hysbysebu o leiaf 21
diwrnod cyn y Cyfarfod neu mewn CCB, a rhaid i’r cynnig fod wedi cael ei
hysbysu yn yr Agenda.
B. Bydd cynnig bod y Grwp yn dirwyn i ben yn dod yn weithredol dim ond
os bydd traean o’r Aelodau sy’n bresennol yn y Cyfarfod yn cytuno ar
hynny.
C. Gwaredir arian ac eiddo i elusen lleol neu fudiad gwirfoddol lleol
fel arfer sydd â nodau ac amcanion tebyg, yn ôl dymuniad y Cyfarfod, gyn
belled ag y bodlonir ymlaen llaw geisiadau cyfreithiol gan y sawl sydd â
dyled iddo (credydwyr).
D. Aelodau’r Pwyllgor fydd yn gyfrifol am ddirwyn asedion a dyledion y
Grwp i ben.
YN ÔL CYMERADWYAETH A GAFWYD GAN Y PWYLLGOR, SEF YR AELODAU A’I
SEFYDLODD, MEWN CYFARFOD AR 17 MEHEFIN 2005
CADEIRYDD Roger Bray DYDDIAD 22 Gorffennaf 2005
YSGRIFENNYDD GWEITHREDOL Richard Macve DYDDIAD 22 Gorffennaf 2005
GWELLIANT I BWYNT 7A A WNAED MEWN CYFARFOD PWYLLGOR A GYNHALIWYD AR 30
MEHEFIN 2006
CADEIRYDD Roger Bray DYDDIAD 3 Gorffennaf 2006
|