![]() |
Grwp Aberystwyth Gwyrddach
|
| TUDALENNAU ERAILL | IN ENGLISH |
|
Mannau gwyrdd yn Aberystwyth[Cliciwch yma i weld map o Aberystwyth]
Mae Parc Natur Penglais yn edrych lawr ar y dref o'r gogledd. Gwarchodfa Natur Lleol ydyw, o dan ofal Cyngor Sir Ceredigion, gyda chymorth gwirfoleddwyr. Gorchuddiwyd yr hen chwareli o'r 18fed a'r 19fed ganrifoedd gan goed a phlanhigion erbyn hyn.
Mae hen luniau o Rodfa'r Gogledd yn ei dangos o dan gysgod coed mawr, ond mae rheini wedi diflannu erbyn hyn. Mae eu dilynwyr ifanc yn tyfu, ond mae rhai coed (ar y dde yn y llun) wedi marw. Mae GAG yn awyddus i weld coed eraill yn cael eu plannu yn eu lle.
|
Yn Stryd Portland, mae coed yn tyfu rhwng y llefydd parcio. Tua ganrif yn ôl, safle stablau, yna "roller-skating rink", yna sinema oedd y gerddi ar y chwith. Erbyn hyn, mae glaswellt, gwelyau blodau a choed ceirios wedi cymryd eu lle.
Arolwg Mannau Gwyrdd
Mae GAG yn gwneud arolwg manwl o fannau gwyrdd yn Aberystwyth. Cyflwyniwyd casgliadau Rhan 1 ym mis Mawrth 2007. Dyma grynhoad yr adroddiad cyntaf:
Nod y cynllun yw adnabod gwahanol fathau o fannau gwyrdd yn y dre. Mae canlyniadau’r prosiect wedi’u cynrychioli ar fap a’u diffinio mewn graffiau. Ymgymerwyd â’r prosiect gan ddilyn adroddiad Cyngor Cefn Gwlad Cymru: “Darparu Gwyrddfannau Naturiol Hygyrch mewn Trefi a Dinasoedd”. Cafodd mannau gwyrdd Aberystwyth eu hadnabod a’u dosbarthu gan ddefnyddio ffotogaffau o’r awyr a data Arolwg Ordnans Mastermap. Gan ddefnyddio GIS arbenigol a meddalwedd penodol “remote sensing”anela’r cynllun ddarparu’r cam cyntaf mewn dadansoddi mannau gwyrdd hygyrch yn Aberystwyth. Mae gan Aberystwyth gyfoeth o fannau gwyrdd – naturiol ac arall. Mae’n hanfodol fod cynllunio tymor-hir a rheolaeth o’r mannau gwyrdd sy’n bodoli yn Aberystwyth yn digwydd er mwyn i bobl barhau i fwynhau mannau gwyrdd a bywyd gwyllt yn eu tref.
Mae canlyniadau llawn gan gynnwys y data GIS ar DVD y prosiect ar gael i
Gyngor Sir Ceredigion, Llywodraeth Cynulliad Cymru a Chyngor Cefn Gwlad
Cymru. Hefyd, mae copi ar gael i'w fenthyca gan gadeirydd GAG,
rogerpbray@aol.com .
![]() |